Yn ei gyfnod cychwynnol yn ystod 2022, roedd gan ENGINmakers gyllid i gyflogi day fyrfyriwr israddedig, yn gweithio o dan oruchwyliaeth Dr. Daniel Gallichan, i dreulio hyd at ~100 awr dros y cyfnod rhwng Mehefin a Medi 2022 yn gweithio ar ddatblygu dau beirianneg - gweithgareddau a ffocws i’w defnyddio gydag ymweliadau ysgol ac ymgysylltu a’r cyhoedd.

Cawsom ddau ymweliad ag ysgolion lleol, y cyntaf ym mis Gorffennaf a’r ail ym mis Tachwedd, a datblygwyd dau weithgaredd ar wahan i’w cynnal yn ystod yr ymweliadau hynny. Mewn cydweithrediad a Mr Speight Consultancy mae’r gweithgareddau hyn wedi’u trosi’n ‘becynnau athrawon’ i alluogi athrawon ysgol i gynnal fersiynau o’r gweithgareddau hyn un annibynnol, gan gefnogi eu darpariaeth o’r Cwricwlwm i Gymru.

Cafodd y prosiect peilot hwn hefyd gefnogaeth gan The micro:bit Foundation i ddarparu ymgynghoriad ar optimeiddio ein defnydd o nodweddion y micro:bit, yn ogystal a chefnogaeth gan [MathWorks] ( https://uk.mathworks.com/ ) a gydweithiodd a sicrhau bod MATLAB hefyd yn gallu rhyngwynebu’n esmwyth a’r micro:bit wrth ddatblygu’r gweithgareddau hyn.

Mae croeso i chi [cysylltwch a mi trwy e-bost] (mailto:gallichand@caerdydd.ac.uk) os oes genych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gymryd rhan yn y dyfodol yn weithgareddau o’r fath.