Y micro:bit y BBC
Mae’r micro:bit yn fwrdd cylchedd bach, cost isel, sy’n rhaglenadwy iawn.
Ar gyfer Athrawon
Gallwch lawrlwytho ein Pecynnau Athrawon lle gallwch gael eich ysbrydoli ar gyfer eich ystafell ddosbarth
Ar gyfer myfyrwyr israddedig
Os ydych chi’n fyrfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan fel ENGINmaker yma.
Yn sylfaenol, mae peirianneg yn ymwneud a defnyddio sgiliau technegol (gwyddoniaeth, mathemateg, cyrfiriafura a mwy) i ddylunio atebion i broblemau. Fel cymdeithas, dwy her hynod bwysig sy’n hwynebu yw’r argyfwng hinsawdd a’n hiechyd byd-eang, ac mae angen i gymaint o’r genhedlaeth nesaf a phosibl feddu ar y sgiliau priodol i allu helpu ateb y problemau hyn gyda peiriannydd.
Mae prosiect ENGINmakers yn ddod o myfyrwyr ac academyddion o’r Ysgol Beirianneg ynghyd ag athrawon o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau i blant ysgol. Anelwn ennyn diddordeb y plant trwy ddylunio gweithgareddau sy’n eu hannog i fod yn ‘wneuthurwyr’, i ddylunio ac adeiladu datrysiadau i broblem gan ddefnyddio deunyddiau hygyrch.
Ar gyfer y fenter beilot yn 2022, roedd y prosiectau’n seiliedig ar y platform BBC micro:bit, bwrdd cylchedd rhaglenadwy bach cost isel sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn ysgolion ledled y DU. Gan weithio gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, nod y prosiect hwn yn creu llwybr ar gyfer pontio’r bwlch rhwng ymchwil yn yr Ysgol Beirianneg ac addysg gynradd ac uwchradd yn yr ardal leol, gyda’r dyheadau i gyrraedd llawer pellach lle bo modd.